Grŵp Trawsbleidiol – Deddf Aer Glân i Gymru

 

Cross Party Group Clean Air Act for Wales

 

 

 

 

12:15 – 13:15

08.06.2021

 

Cyfarfod rhithwir gan ddefnyddio Teams

Virtual meeting using Teams

 

Yn bresennol

 

Huw Irranca-Davies AS – Cadeirydd

 

Janet Finch-Saunders AS – Is-gadeirydd

Delyth Jewell AS – Is-gadeirydd

Mathew Norman – Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint (AUK-BLF) & Awyr Iach Cymru (HAC) – Ysgrifennydd

 

Joseph Carter – AUK-BLF & HAC – Llefarydd

Haf Elgar – FoE – Is-gadeirydd HAC

Llyr Gruffydd AS

Jenny Rathbone AS

Yr Athro Paul Lewis

 

Olwen Spiller

George Watkins

Paul Willis

Paula Renzel

Heledd Fychan AS

David Bithell

Sarah Murphy AS

 

Jason Bale

Adam Fletcher

Robin Lewis

David Bithell

Jane Pratt

 

Gwenda Owen – Cycling UK

Rhodri Evans

 

Charlotte Morgan


Brody Anderson

Jayne Bryant AS

Robin Lewis

Rhiannon Hardiman – Living Streets

Neil Lewis

Liz Williams –  Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPSych)

 

 

 

Ymddiheuriadau

 

 

 

Gemma Roberts – Sefydliad Prydeinig y Galon

 

Vikki Howells AS – Robin Lewis, Uwch- ymgynghorydd, yn cymryd rhan o'i swyddfa

Luke Fletcher AS

Mark Isherwood AS

 

 

 

Camau gweithredu yn deillio o’r cyfarfod hwn:

 

1.    Cyflwyno papurau i'r Swyddfa Gyflwyno

 

2.    Anfon e-byst at Aelodau o’r Senedd at ddibenion cytuno ar ddiben y Grŵp

3.    Anfon cofnodion y cyfarfod blaenorol cyn y cyfarfod nesaf

 

4.    Trefnu amser a dyddiad y cyfarfod nesaf, gyda phynciau yn deillio o'r eitemau agenda sy’n cael eu trafod.


Agenda

 

1.     Cadeirydd dros dro, Huw Irranca-Davies AS: Croeso, cyflwyniadau ac ymddiheuriadau.

 

Acting Chair, Huw Irranca-Davies MS: Welcome, introductions and apologies.

 

 

 

 

 

2.     Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol - Ethol Cadeirydd, Is-gadeiryddion ac Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Trawsbleidiol. Gofynnwyd am enwebiadau gan yr aelodau a oedd yn bresennol.

 

 

AGM – Election of Chair, Vice Chairs and Secretariat of the CPG.  Nominations sought from members in attendance.

 

 

Enwebiadau / Current Nominations: Cadeirydd/Chair -Huw Irranca-Davies AS

 

Cafodd Huw Irranca-Davies AS ei enwebu gan Janet Finch-Saunders AS, a chafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan Delyth Jewell AS.

 

Ni wnaed unrhyw enwebiadau eraill.

 

Cafodd Huw Irranca-Davies AS ei ethol yn Gadeirydd.

 

Is-gadeirydd / Vice Chair – Janet Finch-Saunders AS

 

 

Cafodd Janet Finch-Saunders AS ei henwebu gan Delyth Jewell AS, a chafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan Llyr Gruffydd AS.

 

Cafwyd ail enwebiad.

 

Is-gadeirydd / Vice Chair –Delyth Jewell AS

 

 

Cafodd Delyth Jewell AS ei henwebu gan Janet Finch-Saunders AS, a chafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan Llyr Gruffydd AS.

 

 

Heb unrhyw enwebiadau eraill, cafodd Delyth Jewell AS a Janet Finch-Saunders AS ill dau eu hethol yn Is-gadeiryddion.


 

Ysgrifenyddiaeth/Secretariat – Awyr Iach Cymru – Mathew Norman AUK-BLF Cymru

 

 

Enwebwyd Mathew Norman o Awyr Iach Cymru ac Asthma UK-Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru gan Llyr ap Gruffydd.

 

Cafodd yr enwebiad hwn ei eilio gan Jenny Rathbone AS.

 

Heb unrhyw enwebiadau eraill, cafodd Mathew Norman ei ethol yn Ysgrifennydd y grŵp.

 

 

Diolchodd Huw Irranca-Davies AS i bawb am roi eu henwau ymlaen ac am gefnogi’r Grŵp Trawsbleidiol.

 

 

3.     Cyflwyniad gan Joseph Carter, Awyr Iach Cymru. Y pum mlynedd nesaf: nodau, galwadau a chynigion ar gyfer diwygio’r drefn mewn perthynas ag aer glân.

 

 

Presentation from Joseph Carter, Healthy Air Cymru.The next five years, aims, calls and proposals for clean air reform.

 




 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Joseph: Mae'r effaith yn cynyddu bob blwyddyn wrth i fwy o gyflyrau gael eu heffeithio gan y sefyllfa hon.

 

 

Mae ymchwil sy’n mynd rhagddi yn tynnu sylw at effaith llygredd aer ar sawl agwedd ar gyflyrau iechyd.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae tlodi yn ffactor pwysig yn y cyd-destun hwn, ac ni ddylid ei ddiystyru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae’r graff hwn yn dangos y gydberthynas rhwng llygredd aer a marwolaethau COVID-19 yn ystod y don gyntaf o’r clefyd. Mae cyfraddau marwolaethau COVID-19 yn llawer uwch mewn ardaloedd lle mae llygredd aer ar ei uchaf.


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Enillion o fuddsoddiadau.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Un gofyniad: sicrhau Deddf Aer Glân i Gymru


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae gwaith monitro yn amrywio o le i le.



 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Joseph: Rydym yn gobeithio y gallwn weithio gyda phob un ohonoch wrth gyflawni'r Ddeddf Aer Glân hon, a sicrhau bod Cymru yn achub y blaen.

 

Sesiwn holi ac ateb

 

 

Dan arweiniad y Cadeirydd, cafwyd cyfraniadau gan Jenny Rathbone AS, Neil Lewis, Delyth Jewell AS a Heledd Fychan AS.

 

Codwyd y pwyntiau a ganlyn:


 

       Mynegwyd pryder ynghylch trefn y ddeddfwriaeth yr bydd angen ei phasio eleni. Yn benodol, nodwyd bod ail-reoleiddio’r diwydiant bysiau yn flaenoriaeth o ran cymhwyso Deddf Aer Glân yn effeithiol yn y dyfodol.

 

       Cafwyd cwestiwn technegol ynghylch faint o PM2.5a allyrrir o deiars ar Stryd y Castell o gymharu â cheir diesel a phetrol. Ymatebodd yr Athro Paul Lewis: mae traul brêciau a theiars yn berthnasol ar gyfer PM10 uwch. Mae PM2.5yn ganran fach o gludiant cyffredinol (er bod hyn dal yn arwyddocaol), ac mae amodau’r tywydd yn ddylanwadol o ran pa mor hir y mae hyn yn para.

 

       Mynegwyd optimistiaeth mewn perthynas â’r Ddeddf Aer Glân. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gan Gymru gyfle posibl i arwain cyfnod o ailadeiladu gwyrdd ac ecogyfeillgar yn dilyn pandemig byd-eang.

 

       Tynnwyd sylw at yr awydd i ddiwygio, megis galwadau am newidiadau parthed adolygu rhwydweithiau trafnidiaeth lleol a chysylltiadau lleol at ddibenion lleihau'r defnydd o geir.

 

       Mynegwyd pryder ynghylch cynlluniau datblygu lleol. Nodwyd bod cynlluniau datblygu lleol yn para 10 mlynedd, ac yn absenoldeb Deddf Aer Glân, gallai cynghorau achosi effeithiau negyddol hirdymor po hiraf nad ydynt yn ystyried y ddeddfwriaeth hon, ac yn enwedig, ffyrdd glanach a gwyrddach o feddwl a fydd yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.

 

       Cynigiwyd mai’r ffordd orau i sicrhau bod cynghorau yn rhoi ystyriaeth i’r Ddeddf yw sicrhau bod y Bil yn cael ei gyflwyno yn y Senedd cyn gynted â phosibl. Yna, dylid ceisio cyngor Gweinidogol ynghylch a oes gofyn i gynlluniau datblygu lleol roi ystyriaeth i ddeddfwriaeth arfaethedig fel y Bil Aer Glân (Cymru) wrth iddynt gael eu llunio.

 

 

Cadeirydd – Rwy’n mynd i ddefnyddio fy statws fel Cadeirydd i aildrefnu’r agenda. Gan mai hwn yw cyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol yn ystod y tymor hwn, rwy'n teimlo y byddai’n gwneud synnwyr inni gael llun teulu. Byddwn yn gwneud dwy fersiwn – un fersiwn yn cynnwys pawb sy'n bresennol heddiw, a fersiwn arall ar gyfer ein cydweithwyr. Felly, dylai pob person sydd am fod yn y llun droi ei gamera ymlaen, a bydd Mathew yn gwneud y gweddill.

 

 

Mathew – Byddaf yn cyfri i lawr o dri: Tri, dau, un – Caws’: (Ailadrodd y broses ar gyfer aelodau)


 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

4.     Cynllunio ar gyfer y dyfodol – Nodau a diben y Grŵp Trawsbleidiol, cynigion ar gyfer agendâu cyfarfodydd yn y dyfodol (siaradwyr ac ati) a dyddiad y cyfarfod nesaf. 

 

 

Diben y Grŵp Trawsbleidiol blaenorol oedd: 'Sicrhau cefnogaeth wleidyddol ar gyfer deddf aer glân i Gymru.'

 

 

Future planning – Aims and purpose of the CPG, proposals for agendas of future meetings (speakers etc) and next meeting date?


 

Previous CPG’s purpose: ‘Secure political support to deliver a Clean Air Act for Wales’

 

 

Cadeirydd: Un eitem yw nod a diben y Grŵp Trawsbleidiol a dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf. Os wnawn ni droi at ddiben y Grŵp Trawsbleidiol – Cadeirydd yn darllen y diben blaenorol.

 

 

A ydym yn fodlon mai’r diben hwn ddylai barhau fel diben diffiniol y Grŵp Trawsbleidiol? Os byddwn yn cyflawni’r diben hwn, mae’n bosibl y bydd gofyn inni ailedrych ar y diben a thrafod pethau eraill. Beth yw eich teimladau am hynny?

 

       HAC –cefnogi ailddefnyddio'r diben blaenorol.

 

       Llyr ap Gruffydd AS – Dim problem gyda'r geiriad, er bod posibilrwydd y gallem gael Deddf Aer Glân nad oes ganddi ddannedd yn y pen draw. A ddylem ddweud ein bod am gael 'Deddf Aer Glân gadarn', neu a ddylem ddweud ein bod am gael 'Deddf Aer Glân gadarn i Gymru'?

 

 

Cadeirydd – Gallaf weld cwpl o bobl yn amneidio, ac felly gallem wneud cwpl o fân newidiadau. Mathew, gwelaf dy fod wedi codi dy law.

 

 

Mathew – Diolch, Gadeirydd. Gan fod yn rhaid inni gytuno ar y mater hwn er mwyn cyflwyno’r papurau, a gaf i awgrymu ein bod yn trafod y mater hwn dros e-bost gyda’r Aelodau?

 

Cadeirydd – Wyt ti’n fodlon, Llyr?

 

Llyr ap Gruffydd MS –Rwy’n fodlon.

 

Cadeirydd: Cyfarfodydd ac eitemau agenda ar gyfer y dyfodol - Llyr?

 

 

Llyr ap Gruffydd AS – Hoffwn archwilio effaith bosibl deddfwriaeth ar ddiwydiant. Gan edrych ar y Waun yn fy ardal i, mae’r dref honno wedi dioddef yn fawr yn sgil diffyg aer glân. Er ein bod yn dymuno cael deddfwriaeth, dylem adolygu’r effaith ar ddiwydiant a chael trafodaethau gyda chynrychiolwyr ar yr hyn y bydd disgwyl iddynt ei wneud mewn ymateb. Mae egwyddorion yn dda, ond mae angen inni weithio gyda nhw.

 

Cadeirydd – Cytuno. Delyth?


 

Delyth Jewell AS – Yn sgil yr hyn a godwyd gan Jenny ac a drafodwyd yn dilyn hynny, byddwn yn croesawu eitem ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrafodaeth ynghylch y rhwystrau sydd ynghlwm wrth symud yr agenda yn ei blaen er mwyn ddeddfu yn y maes hwn.

 

 

Cadeirydd – Credaf y byddai'n syniad da gweld a oes gennym ni gyfle i ofyn i’r Gweinidog ddod i un o gyfarfodydd y grŵp yn gynnar yn y broses. Efallai y gallai’r Grŵp Trawsbleidiol ysgrifennu at y Gweinidog yn ei gwahodd i’r grŵp?

 

 

Joseph – Rydym wedi ysgrifennu ar ran HAC hefyd i ofyn am y posibilrwydd y gall y Gweinidog ddod i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol. Byddem yn gobeithio y byddai hynny’n digwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.

 

 

Efallai y gallem ofyn i’r Gweinidog ddod i’r cyfarfod nesaf, a allai gael ei gynnal ym mis Hydref neu ddiwedd mis Medi. Braf fyddai croesawu’r Gweinidog i’r cyfarfod hwnnw a chael arweiniad ynghylch y datganiad deddfwriaethol, gyda Julie neu Lee yn siarad am hynny. Yn ogystal, gallem ofyn i’n cydweithwyr yn y gwasanaeth sifil am ddadansoddiad o’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn hefyd – gallai hwnnw fod yn gyfarfod agoriadol da.

 

 

Mathew – Byddai’n dda cael diweddariad hefyd ynghylch y data a'r monitro sy’n berthnasol i lygredd aer yng Nghymru. Yr Athro Paul Lewis, gwnaethom siarad cyn y cyfarfod, ac rwyf yn sicr y byddech yn croesawu’r cyfle i wneud hynny yn y cyfarfod nesaf.

 

 

Yr Athro Lewis – Byddwn yn croesawu hynny. Dylai’r data fod wedi cael eu diweddaru yn ysgrifenedig erbyn hynny.

 

 

Cadeirydd – A ydym yn bwriadu cael cyfarfod tua4-5 wythnos cyn toriad y Senedd? A fyddai’r amseru yn well pan fyddwn yn dychwelyd?

 

 

A fyddai modd i aelodau gael cyfarfod cyn y toriad, gan gymryd amserlenni i ystyriaeth, wrth gwrs? Dyna pam yr oeddem am gael y cyfarfod a sefydlu’r grŵp yn gynnar, ac yna trefnu agendâu dros dro gyda'i gilydd. Y peth pwysig yw bod y grŵp wedi’i sefydlu ac wedi dechrau trafod y maes gwaith hynod bwysig hwn. Felly, a ddylem wneud trefniadau yn gynnar yn yr hydref?

 

 

A yw pawb yn cytuno? Diolch, felly, i bawb am eu presenoldeb ac i'r rhai a drefnodd y cyfarfod. Byddwn yn rhannu cofnodion y cyfarfod hwn cyn y cyfarfod nesaf ac yn trefnu dyddiad cyfarfod nesaf y grŵp drwy e-bost, yn ogystal â’i ddiben.


Daeth y cyfarfod i ben.

Camau i’w cymryd:

 

1.    Cyflwyno papurau i'r Swyddfa Gyflwyno

 

2.     Anfon e-byst at Aelodau o’r Senedd at ddibenion cytuno ar ddiben y Grŵp

3.     Anfon cofnodion y cyfarfod blaenorol cyn y cyfarfod nesaf

 

4.     Trefnu amser a dyddiad y cyfarfod nesaf, gyda phynciau yn deillio o'r eitemau agenda sy’n cael eu trafod.